Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (130)v3 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
|
3. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru (60 munud)
NDM5231 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2013.
Dogfennau ategol: |
4. Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei ymchwiliad i bolisi Llywodraeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol (60 munud)
NDM5232 Christine Chapman (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Bolisi Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mawrth 2013.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Ebrill 2013.
Dogfennau ategol: Adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5233 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y manteision bod Cymru yn rhan o’r Deyrnas Unedig; a
2. Yn nodi pwysigrwydd sicrhau dyfodol Cymru o fewn Teyrnas Unedig gref sy'n datblygu.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cymeradwyo argymhellion adroddiad Rhan I y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth y DU i ddwyn ymlaen deddfwriaeth o fewn y Senedd hon i roi’r cynigion hyn ar waith yn llawn.
Gellir gweld adroddiad Rhan I y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru drwy fynd i:
http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/cy/
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Prif Ysgrifennydd y Trysorlys i chwilio am fodel newydd o ddatganoli ar gyfer Cymru gyda refferendwm ar ragor o bwerau dros drethi a benthyca. |
Cyfnod Pleidleisio |
6. Dadl Fer - Gohiriwyd
NDM5234 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Gwybod am y Gwenyn
Rôl gwyddoniaeth o ran gwarchod iechyd gwenyn fel peillwyr. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 14 Mai 2013